AR GOLL.

Fisoedd yn ôl daeth gair i'r Swydidfa Ryfel fod Pte. W. H. Jones, mab Mr a Mrs Jones, Mochras, ar goll mewn canlyniad i'r ymosodiad wnaed yng Nghoedwig Bourdon.

Buwyd yn gobeithio mai wedi ei gymeryd yn garcharor yr oedd a gwnaed pob ymchwiliad. Erbyn hyn y mae gair swyddogol wedi dod o Germani ei fod yn mhlith y lladdedigion.

Mae yn sicr fod yr holl ardal yn cydymdeimlo yn fawr a'r teulu yn eu trallod dwfn.

Yr Udgorn 07/05/1918