MILWR O LEYN WEDI EI LADD.

Ddydd Sadwrn daeth newydd o'r Swyddfa Rhyfel fod Mr. Robert Sennar, mab ieuengaf Mr. a Mrs. George Sennar, Factory Nanhoron, wedi ei ladd ym mrwydr fyth gofiadwy yr Ypres ar yr 21ain o'r mis o'r blaen pan y bu i agos i'r holl fataliwn y perthynai iddi, sef y Royal Welsh Fusiliers, gael eu lladd. Ymddengys eu bod yn dra awyddus am gael ymosod ar y gelyn, ond gorchfygwyd hwy a gorfodwyd hwy i gilio yn ôl.

Yr oedd Sennar tua 25 mlwydd oed ac wedi gwasanaethu blynyddau yn y fyddin. Nid yw y rhestr swyddogol o'r colledion ar y dyddiad uchod wedi eu cyhoeddi eto.

Cydymdeimlir yn fawr a theulu yr ymadawedig. Dyma y cyntaf mae'n debyg o fechgyn Lleyn i syrthio yn y rhyfel.
 

Herald Gymraeg 24/11/1914


WEDI CWYMPO'N Y GAD.

Ddydd Sadwrn derbyniodd Mr a Mrs George Sennar hysbysrwydd o'r Swyddfa Ryfel fod eu mab, Robert Sennar, yr hwn berthynai i Fataliwn gyntaf y Royal Welsh Fusiliers, wedi ei ladd yn y frwydr ffyrnig gymerodd le ar Hydref yr 21ain.

Yr Udgorn 25/11/1914