MILWR CLWYFEDIG.

Yr wythnos ddiweddaf gwelsom Sergeant Roy Hughes, mab y ddiweddar awdures athrylithgar Gwyneth Vaughan (gynt Lluest Wen), a brawd Mr Guy Hughes, Arlunydd, wedi dychwelyd gartref.

Niweidiwyd ef yn ddifrifol mewn brwydr certh yn Ffrainc, a bu mewn ysbyty yn Lloegr am fisoedd yn cael triniaeth i'w glwyfau. Dymunwn i'r cymrawd hoff adferiad llwyr.

Yr Udgorn 04/04/1917