Marwolaeth Mr G. Griffiths, Llangwnadl 14/12/1977.

Bu farw Mr Griffith Griffiths, Blaen y Wawr yn ei gartref nos Fercher, Rhagfyr 14.

Nid oedd yn dda ei iechyd ers rhai blynyddoedd ond daliodd yn siriol i'r diwedd. Yr oedd yn 74 mlwydd oed. Mab y diweddar John a Lora Griffiths, Pengongl ydoedd. Bu'n gweini ar amryw o ffermydd y fro ac wedi hynny bu yng ngwasanaeth Cwmni'r Crosville.

Yn 1976 cyhoeddwyd ei lyfr diddorol “Blas hir hgel” ac yn hwnnw dywed iddo adael yr ysgol yn 13 oed a mynd i weini am gyflog o dair punt a chweugain y tymor. Cafodd fwynhad mawr wrth groniclo ei atgofion byw am gymeriadau lliwgar Penllŷn ac am ail fyw ddigwyddiadau megis Ffair Sarn, Eisteddfod y Rhos, y Cymdeithasau Llenyddol a hynt a helynt Cor Hebron dan arweiniad y diweddar R. H. Gruffydd, ysgolfeistr y Rhiw a Phenfforddfelen wedi hynny.

Yr oedd yn aelod yng nghapel Penygraig, yn godwr canu ac arweinydd rihyrsals ar gyfwe Cymanfa Penllyn. Yn aelod gweithgar o Gyngor Plwys a Chyngor Cymdeithas Tudweiliog ac yn cael ei gydnabod bob amser fel cynghorydd doeth. Yr oedd yn gwmniwr diddorol a phob amser yn groesawus ar ei aelwyd yn Blaen y Wawr. Bydd chwithdod a cholled yno ar ei ol a bydd yr ardal hefyd yn llawer tlotach hebddo.

Bu ei angladd ddydd Sadwrn Rhagfyr 17. Cafwyd gwasanaeth i'r teulu y y tŷ dan arweiniad y Parch J. D. Lewis, Hebron ac yn Eglwys Sant Gwynhoedl a'r fynwent gan y rheithor Parch Robert Williams (Deon Gwlad Llyn) a'r Parch R. O. G. Williams, Rhoslan (nai). Wrth yr organ yr oedd Mrs Glenys Roberts, Gorffwysfa a gofalwyd am y canu gan Mr Harri J. Griffith, Llwyn Helyg (nai).

Y prif alarwyr oedd : Mrs Annie Griffiths (priod); Miss Malltwen Griffiths, Blaen y Wawr (merch); Mr Aled Griffiths, Caeathro (mab); Mr a Mrs Elfed Griffiths, Pwllheli (mab a merch yng nghyfraith); Stephen Iwan (wyr); Elizabeth Rachel, Manon Haf a Ffion Mair (wyresau); Mrs Margaret Jones, Llain Las, Llangwnadl a Mrs Lora Griffith, Pwllheli (chwiorydd) ynghyd a thyrfa luosog o berthnasau agos, cymdogion a chyfeillion sydd yn llawer rhy niferus i'w henwi. Methodd Mrs Mary Jones, Llanengan (chwaer) a bod yn bresennol.

Y clydwyr oedd Aled ac Elfed (meibion); Mr Robert R. Griffith, Cae'r Eos, Aberdaron (cefnder) a Mr Dyfrig H. Jones, Penygroes (perthynas).

Rhoddwyd blodau gan y teulu yn unig a derbyniwyd rhoddion tuag at Gronfa Radio Ceir at wasanaeth meddygon Nefyn. Hyd yma derbyniwyd £120.

Cambrian News 06/01/1978