Bangor, Pa - Drwg genym orfod cofnodi maewolaeth Robert Hughes, yr hyn gymerodd le foreu Sul, Ionawr 18, yn 68 mlwydd oed. Cymerodd yr angladd le y dydd Mercher
canlynol, pryd y daeth torf o hen gyfeillion yr ymadawedig i dalu y gymwynas olaf i'w weddillion marwol. Gadawodd ddwy ferch ac un mab i alaru ar ei ôl, ac y mae
ein cydymdeimlad gyda hwy yn eu profedigaeth o golli un a ffu yn dad da iddynt. Yr oedd yr ymadawedig yn enedigol o Aberdaron G.C.. Daeth i'r wlad hon tua 30 o
flynyddoedd yn ôl. Hen Gymro dyddanus oedd ein cyfaill, selog bob amser dros gadw yr iaith Gymraeg i fyny ac yn ei ddull gwreiddiol ei hun yr oedd ganddo
ddywediadau treiddgar am bob Dicsiondafydd.