MARW.

Ddydd Iau, 11eg cyfisol, bu farw Miss Margaret Jones, Ystohelig Fawr, yn 76 mlwydd oed.

Claddwyd ei gweddillion ym mynwent newydd Aberdaron ar yr 16eg.

Gwasanaethwyd yn y tŷ gan Mr. Owen Jones, Brynpoeth, ac yn yr Eglwys gan y Parch. T. E. Owen, M.A., Aberdaron.

Herald Gymraeg 23/02/1915