MARW A CHLADDU.

Dydd lau, Ionawr 24ain, bu farw Mr Griffith Roberts, Penybryn, wedi cyrraedd yr oedran teg o 82 mlwydd.

Hebryngwyd ei weddillion ddydd Mawrth, 29ain. i hen Fynwent St. Hywyn (angladd cyhoeddus). Daeth tyrfa luosog ynghyd, yr hyn a dystiai fod Griffith Roberts yn gymeradwy ac adnabyddus iawn i gylch mawr. Gwasanaethwyd yn y tŷ gan Mr Thomas Williams. Pwlldefaid, blaenor hynaf yn Uwchymynydd l(M.C.), lle bu'r ymadawedig yn dra ffyddlawn am amser maith. Gwasanaethwyd yn y fynwent gan y Parch T. E. Owen, M.A., Aberdaron.

Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu yn eu profedigaeth.

Yr Herald Gymraeg 05/02/1918