NEWYDD PRUDD.

Dyma'r newydd cyffredinol y dyddiau hyn, a dyma ddaeth ynghylch Gunner J. G. Roberts, Gongl y Cae, yr hwn oedd ar faes y frwydr yn Ffrainc ers amser maith bellach.

Cafodd ei wenwyno gan y nwy gwenwynig. Gorwedda'n awr yn yr ysbyty yn Halifax. Dymunwn iddo adfer.

Yr Herald Gymraeg 20/08/1918