Llys Ynadol Pwllheli. Ddydd Mercher.

Gerbron J. G Jones, Ysw. (yn y gadair), Maurice Jones, G. Hughes Roberts, Ysw., C. H. LIoyd Edwards, Ysw., Dr. S W. Griffith, Dr. Gwenogfryn Evans, Wm. Thomas, Ysw., W. W Griffith, Ysw., J. Hughes Parry, Ysw a G. Cornelius Roberts, Ysw.

Goleuni Gwaharddedig.

Cyhuddwyd William Roberts, Talcen Foel, a John Evans, Bron Foel, Aberdaron, o ddangos goleuni ar y traeth yn Aberdaron yn groes i Ddeddf Amddiffyniad y Wlad.

Rhoed tystiolaeth gan y Parch. T. E. Owen, yr hwn ddywedai ei fod yn gofalu am y rhai oedd yn gwylio glanau y mor yn Aberdaron. Tua haner nos Rhagfyr 30ain gwelodd oleuadau ar yr allt uwchben y mor ac ar y traeth, ac aeth ef ag un o'r gwylwyr, sef Mr. Robert Ellis, tuag yno, a chyfarfyddasant y diffynyddion ar y traeth. Yr oedd gan un lamp a'r flashlight. Mewn atebiad iddo ef dywedasant eu bod yn gwybod fod y wlad yn rhyfela, a'u bod yn tori y gyfraith, ac mai chwilio am froc y mor yr oeddynt.

Gwrthodasant roddi eu henwau, ond yr oedd y gwyliwr oedd gyda ef yn eu hadnabod.

Cydnabyddai y diffynyddion eu bod ar y traeth, ond gwadent eu bod wedi dangos goleuni ar yr allt o gwbl.

Dirwywyd hwy i 15s. yr un a'r costau. Mewn atebiad i Mr. G. Hughes Roberts, dywedodd yr Arolygydd ei fod wedi dosbarthu y rhybuddion o'r archeb newydd ynglyn a goleuni trwy holl Leyn.

Yr oedd y rhybuddion yn yr iaith Saesneg. Svlwodd Mr. Roberts fod cannoedd o bobl yn Lleyn nad oeddynt yn deall y rhybuddion yn Saesneg, a dylasent bwyso ar yr awdurdodau i'w rhoddi yn yr iaith Gymraeg.

Yr Udgorn 19/01/1916