MARW A CHLADDU.

Nos Sul, y 15eg, bu farw Mr John Jones, Caecrin, yn yr oedran cynnar o 19eg mlwydd.

Bu'n gwywo'n hir dan yr hen elyn, y darfodedigaeth, ac anfonwyd ef i Iechydfa Caernarfon am yspaid, ond troes yr oll yn aflwyddiannus.

Priddwyd ei weddillion ym mynwent St. Hywyn ddydd Gwener, y 18fed (angladd cyhoeddus). Gwasanaethwyd yn y tŷ ac yn y fynwent gan y Parch T. E. Owen, M.A.

Cydymdeimlir yn fawr a'r teuluoedd yn eu profedigaethau chwerw.

Yr Herald Gymraeg 29/01/1918