DAU EISTEDDIAD YN MHWLLHELI.

Cynhaliwyd y Llys Apel Sirol yn y dref ddyddiau Iau a Gwener diweddaf, Mr. J E. Greaves, yr Arglwydd Raglaw, yn llywyddu.

ACHOSION FFERMWYR.

Yr oedd achos Abraham J. Williams, Penrhyn Canol, Aberdaron, yn ohiriedig er y Llys blaenorol, am ei fod yn rhy wael i fod yn bresenol.

Mesurai y fferm 16 o aceri. Yr oedd yno 4 acer o dir llafur, a'r tad yn bur wael. Yr oedd yno wraig a merch.

Daliai Mr. Davies nad oedd yno ddigon o waith i'r dyn gan ei fod yn dal gwnhingod ac yn gweithio ar ffermydd eraill.

Gohiriwyd yr achos er iddo fyned dan arholiad meddygol.

Yr Udgorn 02/08/1916