Llys Ynadol Pwllheli. Ddydd Mercher.

Gerbron J. G Jones, Ysw. (yn y gadair), Maurice Jones, G. Hughes Roberts, Ysw., C. H. LIoyd Edwards, Ysw., Dr. S W. Griffith, Dr. Gwenogfryn Evans, Wm. Thomas, Ysw., W. W Griffith, Ysw., J. Hughes Parry, Ysw a G. Cornelius Roberts, Ysw.

Goleuni Gwaharddedig.

Cyhuddwyd John Jones. Cefnona, Aberdaron, o ddangos goleuni ar y traeth yn Aberdaron yn groes i Ddeddf Amddiffyniad y Wlad.

Tystiodd Mr. Robert Pritchard, Aberdaron, ei fod yn un o'r gwylwyr, a thua phump o'r gloch y boreu ar Rhagfyr 31ain gwelodd oleuni ar y traeth. Aeth tuag yno, a gwelodd y diffynydd a lamp yn ei law. Gofynodd iddo ddiffodd y goleu, ond aeth ymlaen a'r lamp yn oleu yn ei law.

Dywedodd y diffynydd na ofynodd y tyst iddo ddiffodd y goleu, ac nad oedd yn gwybod ei fod yn troseddu o gwbl.

Dirwywyd ef i 15s. ynghyd a'r costau. Mewn atebiad i Mr. G. Hughes Roberts, dywedodd yr Arolygydd ei fod wedi dosbarthu y rhybuddion o'r archeb newydd ynglyn a goleuni trwy holl Leyn.

Yr oedd y rhybuddion yn yr iaith Saesneg. Sylwodd Mr. Roberts fod cannoedd o bobl yn Lleyn nad oeddynt yn deall y rhybuddion yn Saesneg, a dylasent bwyso ar yr awdurdodau i'w rhoddi yn yr iaith Gymraeg.

Yr Udgorn 19/01/1916