MARW'R POSTFEISTR.
Dydd Mawrth, Mawrth 13eg, ar ôl cystudd trwm, bu farw y swyddog rhagorol a'r masnachydd llwyddianus Mr Griffith Roberts. Post Office, ac efe yn 54 mlwydd oed. Yr oedd Mr Roberts yn ŵr tawel a diymhongar, ac yn gymwynaswr gwirioneddol, Enillodd yn ei ddydd boblogrwydd diamheuol yn mysg y rhai y daeth i gysylltiad â hwy wrth gyflawni ei ddyledswyddau lluosog fel Postfeistr, a pherchid ef yn fawr oherwydd didwylledd ei galon a'i ddynoliaeth bur ganddynt. Bu yn aelod selog a gweithgar yn nghapel y Wesleaid, a bydd colled neillduol ar ei ôl yno.Cymerodd yr angladd le, yr hon oedd gyhoeddus, ddydd Sadwrn yn hen fynwent gysegredig St. Hywyn, lle gorffwys ei weddillion marwol hyd ddydd yr adferiad cyffredinol. Gwasanaethwyd yn y tŷ ac yn y fynwent gan y Parch. T. E. Owen, M.A., Rheithor.
Anfonwyd blodeu-dorchau (wreaths) tlws a phrydferth gan y rhai canlynol :- Mrs Roberts a Mattie, priod a merch; Mrs Carreg McCowan, Llundain a Carreg Plas; Miss Neilie Evans a Miss Mair Jones, 12, Prince of Wales Terrace, Kensington, Llundain; Postfeistr a gwasanaethyddion Llythyrdy Pwllheli; Mr a Mrs Evans, Lerpwl; Mr E. Williams, brawd-yng-nghyfraith; Parch., Mrs a Miss Owen, Ficerdy Aberdaron; Mr a Mrs Jones, Pwllheli.
Gedy ar ei ôl weddw a geneth fach i alaru eu colled ar ôl un mor hoff ac anwyl.
Yr oedd trefniadau'r angladd dan ofal Mr David Williams, Pwlldefaid, Pwllheli.
Yr Udgorn 21/03/1917
ANGLADD MR GRIFFITH ROBERTS.
Dydd Sadwrn, Mawrth 17, daeth tyrfa luosog a pharchus i angladd y diweddar Mr Griffith Roberts, y Llythyrdy, Aberdaron.Gweinyddwyd yn y tŷ ac wrth y bedd gan y Parch T. E. Owen, y Ficer, a chladdwyd ym Mynwent St. Hywyn.
Y prif alarwyr oeddynt : Mrs Roberts (gweddw), Miss Mattie Roberts (merch), Capten Griffiths, Mor Anedd; Mr a Mrs Roberts, Congl y Cae (brodyr); Mrs Griffiths, Penybryn; Miss Roberts, Penybryn; Mr a Mrs Owen Roberts, Glangors; Mr a Mrs Edward Williams, Cadlan; Miss Williams, y Llythyrdy; Mrs Griffith, Blawd-dy, Pencaerau; Capten a Mrs Wiiliams, Rockdale, Abersoch; Mrs Williams, Olgra, Abersoch; hefyd, Miss Jones, Penbont, Sarn; Miss Susie Roberts, Maes Meat Stores, Pwllheli; Mr R. T. Foulkes, postfeisir, Pwllheli; yr Arolygydd Owen, Pwllheli; Capten Bradley, Pwllheli; Mr Owen (cynrychiolydd Morris a Jones), Lerpwl.
Yr oedd Mr Griffith Roberts, Penybryn, tad yr ymadawedig, yr hwn sydd yn 80 mlwydd oed, yn rhy fethedig i fod yn bresenol.
Anfonwyd blodeu gan y rhai canlynol: Mrs Roberts a Mattie (gweddw a merch); Mrs Carreg McCowan, Miss iNellie Evans a Miss Mair Jones, 12, Prince of Wales Terrace. Kensington; Postfeistr Pwllheli a'r staff; Mr a Mrs Evans, Lerpwl; Mr E. Williams(brawd-yng-nghyfraith); y Parch, Mrs a Miss T. E. Owen, y Ficerdy; Mr a Mrs Jones, Pwllheli.
Gofalwyd am y trefniadau gan Mr David Williams, Pwll Delfaid. Pwllheli. cyfaill i'r ymadawedig.