YMOSODIAD HONEDIG.

Fe weinyddodd Tom Jones, daliwr cwningod, wys ar John Lewis Williams, Ship Inn am ymosodiad honedig a dydd Mercher diweddai gwrandawyd y cyhuddiad yn Ynadlys Pwllheli, y Cyrnol Lloyd Evans yn y gadair.

Honai Tom Jones, dros yr hwn yr ymddanghosai Mr. Hugh Prichard, i'r diffynydd dorri trap cwningod perthynol iddo ef yn herwydd i'w gi ef (Williams) fyned iddo.

Un diwrnod aeth Jones i weith-dy crydd y pentref pryd y gwelodd Williams yno ac y gofynnodd iddo paham yr oedd efe wedi "smashio" ei drap ef. Atebodd Williams y "smashiai" efe Jones a'i drapiau, a gafaelodd yng ngwddf Jones gan ei lindagu gymaint nes y daeth gwaed allan drwy enau yr achwynydd, ac yr oedd ôl y gafaeliad am ei wddf yn y Llys. Heriodd Williams ef i ymladd y tu allan i'r gweithdy, ond dywedodd Jones y byddai yn well ganddo ef wneyd Williams ddioddef drwy ei boced na thrwy unrhyw ffordd arall. Ymddygai y diffynydd yn 'fleiddiedig'.

Hugh Jones, crydd. tystiodd iddo weled Williams yn gafael yng ngwddf Jones. Croes holwyd ef gan Mr. Evan R. Davles ar ran y diffynydd. Nid oedd arno ef ofn yn y lle.

Gan y Clerc : Yr oedd ganddo ef fwniawyd i amddffyn ei hyn (chwerthin).

Rhoddwyd ychwaneg o dystiolaeth. Y diffynydd ddywedodd iddo ef a'i gi fyned i gae perthynol i'r Ship Inn. Gyda hyny clywodd y ci yn dolefain a gwelodd ei fod mewn trap cwningod. Tynodd ef yn rhydd a malodd y trap. Nis gallasai fod y ci wedi dyfod a'r trap o dir yr achwynydd. Yr oedd y trap yn rhwym wrth ystranc yn y ddaear. Cydnabyddai iddo afael yn Jones ond ni wnaethai unrhyw niwed iddo.

Dyfarnwyd i daflu yr achos allan ar daliad y costau (14s. 6c.)

Genedl Gymreig 17/02/1914


Llys Ynadol Pwllheli. Ddydd Mercher, Chwefror 11eg.

Gerbron Cyrnol Lloyd Evans (yn y gadair) yr Henaduriaid W. Anthony, Maurice Jones, a G. Hughes-Roberts; Dr. S. W. Griffith, J. G. Jones, Ysw., Claude Lloyd Edwards, Ysw., Dr R. Jones-Evans, a J. Hughes-Parry, Ysw.

Cweryl yn Ngweithdy'r Crydd.

Cyhuddid John Lewis Williams, Ship Hotel, Aberdaron, gan Tom Jones, Glanarfor, o'r un lle, o fod wedi ymosod arno yn ngweithdy'r crydd.

Erlynid gan Mr Hugh Pritchard, ac amddiffynid gan Mr E. R. Davies.

Honai'r achwynydd fod y diffynydd wedi cydio'n ei wddf mor ffyrnig nes yr oedd gwaed yn llifo.

Taflodd y Fainc yr achos allan ar daliad y costau, sef 16s.

Yr Udgorn 18/02/1914