METHDALIAD.
Yn Llys Methdaliad Porthmadog, ddydd Iau, gerbron Mr. John Humphreys (dirprwy gofrestrydd), aeth Robert Ellis, Glanymor, Aberdaron, grocer, dan arholiad.Ymddangosai Mr. Robyns Owen dros y dyledwr, a holwyd ef gan Mr J. Tobias, y Derbynydd Swyddogol Cynorthwyol.
Yr oedd ei ddiffygion yn 204p. 8s. 6c. Priodolai ei fethiant i'r ffaith iddo dalu dyled ei rieni, cael colled wrth roddi coel, a gwaeledd ei wraig. Bu yn cario y busnes yn mlaen am 28 mlynedd, a chedwid ef yn flaenorol gan ei rieni.
Cymerodd ef y busnes ar farwolaeth ei fam. Nid oedd ganddo gyfalaf ei hunan. Yr oedd yno stoc gwerth 10p., a daeth ef yn gyfrifol am ddyled i'r swm o 100p. mewn cysylltiad a'r busnes.
Cauwyd yr achos.