MARWOLAETH.
Bore Llun, bu farw Mr. Robert Jones, Pensarn, Aberdaron, wedi cyraedd yr oedran teg o 88 mlwydd oed.Yr oedd yn gymeriad a hoffid gan bawb ac yn flaenor yn eglwys Deunant ers 36 o flynyddoedd. Bu yn golofn gref i ddal yr achos i fyny yn y lle.
Claddwyd ef dydd Iau yn hen gladdfa Aberdaron dan y drefn newydd. Gwasanaethwyd gan y Parch J. T. Prichard, Uwchymynydd. Teimlir yn chwith ar ei ôl.