ABERDARON MARWOLAETH.
Yn mlodau ei ddyddiau pan ond 26ain mlwydd oed, gofid genym gofnodi marwolaeth Mr. Thomas Jones, anwyl fab Mr. a Mrs. John Jones, Ty'n Mynydd.Dioddefodd waeledd caled a blin yn ddi-rwgnach am fisoedd lawer. Yr oedd o gymeriad tawel, caredig a hynaws gan beri iddo enill llu mawr o gyfeillion, pa rai yn ddiameu a deimlent chiwithdod dwfn ar ei ôl.
Blaenorwyd y dyrfa fawr a ddaethai ynghyd, i dalu ei chymwynas olaf i'r ymadawedig, pan yr aethpwyd ag ef i'w orphwysfa dawel yn mynwent y plwyf ar y 26ain cyf, gan ei gyd- aelodau o'r dosbarth lleol y St. John Ambulance.
Gwasanaethwyd yn y tŷ ar yr achlysur gan y Parch J. T. Prichard, gweinidog ei eglwys, Deunant (M.C.), ac yn yr Eglwys Blwyfol, ac ar lan y bedd. gan y Parch T. E. Owen, M.A., y Ficer.
Duw fyddo yn gysgod a nerth i'r teulu yn y brofedigaeth lem a chwerw ddaeth i'w rhan trwy golli un oedd mor hoff ac anwyl ganddynt.