Tribynlys Lleyn.
Cynhaliwyd yr uchod ddydd Guener, y Parch. T. E. Owen, M. A., Aberdaron, yn llywyddu.GYRIEDYDD MODUR.
Ymddangosodd Mr. O. Robyns Owen ar ran Cwmni Modur y Tociau, Aberdaron, i wneud cais am esgusodiad i Griffith Jones, 26 mlwydd oed, gyriedydd. Dywedodd Mr. Owen fod dau o'r pedwar gyriedydd oedd gan y cwmni wedi ymuno.Dyma yr unig foddion teithio oedd rhwng Aberdaron a Phwllheli. Yr oeddynt yn cario o 250 i 300 o deithwyr yn wythnosol, ac o 100 i 150 ar ddyddiau marchnad a ffeiriau. Yr oedd eu derbyniadau yn 25p. yr wythnos.
Yr oedd y Cyngor Plwyf wedi anfon penderfyniad yn ffafr rhyddhau yr apelydd, gan y buasai yn ddyryswch mawr i'r cyhoedd pe yr atelid y modur. Nid oedd brinder petrol yn y Wad o gwbl, ac yr oedd y cwmni wedi cael trwydded ac wedi gwneud cytundeb am 250 o alwyni y mis.
Dywedodd Mr. Yale nad oedd yn dadleu dros atal y cerbydau modur o gwbl, ond y cwestiwn oedd ai ni ellid cael rhywun arall i wneud y gwaith.
Esgusodwyd ef hyd Rhagfyr 31ain (agored).
Yr Udgorn 04/10/1916
WEDI DYCHWELYD.
Llawen gennym hysbysu fod Pte. Griffith Jones, Tocia, ar ôl agos i dair blynedd o arhosiad gyda'r milwyr yng ngwledydd vr Aifft a Chanaan wedi dod yng ngwledydd yr Aifft a Chanaan wedi dod yn ol.Da gennym el weled yn edrych mor dda eg ystyried iddo fod cyhyd, mewn lle oedd mor boeth. Y mae ganddo lu o hanesion difyrus ac anturiaetihau rhamantus i'w croniclo.
Gyrwr cerbyd modur General Massy, R.A., ydoedd ac nis gallesid cael ei well. Pwy mor fedrus, mor ofalus a "hogia Tocia" gyda'r motor buses o Aberdaron i Bwllheli?