MARW MR. W. JONES, GYNT O GADAIR ELWA A FRONOLEU.

Dydd Sadwrn, Chwefror 15, bu farw y gwr adnabyddus uchod yn Bodwrdda, Lleyn, yn 83 mlwydd oed, lle'r arosai gyda'i ferch, Mrs. E. Roberts.

Yr oedd ei hynafiaid ymysg rhai o amaethwyr mwyaf parchus Einonydd ers oesoedd; a chredwn ei fod yn perthyn yn lled bell i Syr Hugh J. E. Nanney, Gwynfryn. Yr oedd hefyd yn perthyn i'r enwogion, y Parchn. R. Jones, Wern, a J. Jones, TaIsarn.

Tarddai o deulu oedd yn hynod am eu callineb a'u medr i drin y byd; ac yr oeddynt yr un mor hynod am eu sel a'u medr gyda'r Ysgol Sul. Bu ei dad yn athraw am yn agos i 70 mlynedd yn Mrynengan, ac yn arolygu am dymor maith yn Mhencoed; a chynhaliai ef a'i feibion ddosbarth darllen gyda'u gweision am amser hir, ac y mae ol hyny ar rai sydd eto yn fyw, y rhai sydd a'u parch yn fawr iddynt. Gwnaeth y teulu ddaioni dirfawr i'r Ysgol Sul yn Eifionydd; ac yr oeddynt yn deulu lluosog, a phob un yn selog gyda'r Ysgol Sul.

Yr oedd yn ewythr i'r Parch. W. O. Jones, B.A., Lerpwl. Bu farw yn hynod o dawel - "huno."

Claddwyd ef yn mynwent Tai Duon, Chwefror 18, pan y gwasanaeth gan y Parch. H. J. Hughes, Bryniau, ac yn Bodwrdda gan y Parch. J. Jones, Penycaerau.

Herald Gymraeg 23/02/1915