PERSONOL.
Llawenydd digymysg yn yr ardal hon (Pen Lleyn) ydyw deall fod Mr. Owen Jones, y Ffactri, wedi prynu motor car hollol newydd.Hapus a siriol ryfeddol oedd Mrs. Jones ac yntau yn eu gwibdeithiau yr wythnos ddiweddaf trwy Eifionydd ac Ardudwy, a Chaernarfon.
Y mae Mr. Jones yn enwog fel cymwynaswr cyn hyn, a diau y daw y modur i lanw cryn le yn mywyd cymdeithasol yn ogystal a masnachol y rhan bellenig bon o'r wlad.
Edrychwn ynmlaen at ei ddarlithoedd dyddorol ar ei wibdeithiau modurol, yn nghyrddau llenyddol y gauaf nesaf.
Dymunwn iddo hwyl a llwydd yn ei fyd newydd fel modurwr, a bod yn glir i'r "break downs." Gwladwr.