I FYD Y FODRWY.

Ar y 12fed cyf. yn mhresenoldeb Mr. Robert Roberts, cofrestrydd, Sarn. unwyd mewn glan briodas Mr. David Jones, ysgolfeistr y Rhos, a Miss Catherine Jones Griffith unig ferch Mr. a Mrs Griffith. Bodrudd, yng Nghapel Salem. Pwllheli, gan y Parch. J. W. Jones. B.A., Tydweiliog.

Gwasanaethai fel morwyn Miss Jones, Tyddyn Meirion. Rhiw. ac fel gwas gan Mr. Owen Jones, Pencaenewydd (brawd y priodfab), a Mr.E E. Williams, ysgolfeisir, Bryncroes. Rhoddwyd y briodferch ymaith gan ei thad.

Dyma un o briodasau mwyaf poblogaidd Pen Lleyn. Y mae'r briodferch nid yn unig yn hawddgar, caredig a siriol, ond y mae Mr. Jones ei hunan yn ymgorfforiad o gymwynasgarwch ac o ddyn gwasanaethgar mewn ardal.

Ar wahan i'w ddefnyddioldeb fel Cadeirydd Cyngor Plwyf Aberdaron, ac ysgrifennydd Cyfarfod Ysgol Pen Lleyn am faith flynyddau, nid yn fuan yr anghofia llu mawr o fechgyn ieuainc a rhieni ei ymdrechion ar eu rhan yn yr heldrin fawr ddiweddar ac fel aelod o Bwvllgor Pensiwnau y Milwyr bydd ei ymroddiad a'i wasanaeth iddynt o wir werth eto.

Nid rhyfedd felly fod banerau yn lluosog, a'r "saethu" yn diaspedain y fro. Cyduna pawb o honom ar i'r par ieuanc gael mwynhau oes hir, gysurus mewn llonder a llawnder.

Yr Herald Gymraeg 26/08/1919