RHOSHIRWAEN - MARWOLAETH.
Bore dydd Nadolig bu farw Miss Anne Roberts, merch ieuengaf Mr. a Mrs. Ellis Roberts, Brynmeina, yn 22 mlwydd oed, mewn canlyniad i'r ddamwain a gafodd.Cynhaliwyd trengholiad ar y corph nawn Mercher yn Saron, pryd y bwriwyd rheithfarn o farwolaeth wedi ei achosi gan dân. Claddwyd ei gweddillion yn mynwent Llangwnadl ddydd lau.
Cydymdeimlir yn ddwys a'r teulu trallodus.