RHOSHIRWAEN MARWOLAETH.

Bore dydd Mawrth, Awst 1af, bu farw hen gymeriad anwyl a chymeradwy Mr. Evan Morgan, Ty'n Llyn, yn 89 mlwydd oed. Yr oedd wedi symud i'r ardal hon o Ebenezer, Arfon ers blynyddau lawer, ac yn cartrefu gyda'i ferch Ann a'i phriod, Mr. Isaac Thomas, a mawr fu eu gofal caredig ohono.

Brydnawn Sadwrn daeth ynghyd dyrfa fawr i hebrwng ei weddillion i fynwent Eglwys y Rhiw. Darllenwyd rhan o'r Ysgrythyr gan Mr. L. D. Jones (Llew Tegid), Bangor, a gweddiwyd gan y Parch Ellis Jones, Bangor. Canwyd emynau priodol wrth y tŷ, ar y ffordd i'r gladdfa, yn yr eglwys, ac wrth y bedd, dan arwieiniad Mr. David Jones, ysgolfeistr, blaenor y gan yn Sarn.

Yn yr eglwys gwasanaethwycl gan y Parch Mr. Jones, y Ficer. Swyddogion eglwys Saron oedd yn gofalu am yr arch wrth y tŷ ac yn ei roddi i lawr i briddellau y dyffryn, a chludwyd yr arch o'r tŷ i'r fynwent yng ngherbyd Mr. John Owen, Brychdir, yn ôl dymunad yr ymadawedig.

Yr oedd yr angladd yn un o'r rhai lluosocaf fu yn y rhan hon o'r wlad ers blynyddau, ac nid ydym yn rhyfeddu at hyn, oblegid yr oedd yr hen frawd mor anwyl a pharchus.

Gadawodd ddwy ferch a'u teuluoedd i alaru ar ei ôl, Mrs John Williams, 15, New Street, Caernarfon, a Mrs Ann Thomas, Ty'n Llyn, ac un mab Mr. Evan Morgan (Deiniol Fychan), Bangor. Teimla y teulu yn ddiolachgar i bawb am eu cydymdeimlad caredig.

Dyma fel yr ysgrifenwyd ar ei gof-gerdyn gan ei fab:-

"Yr oedd pawb yn hoff o'i gwmni"-
Dyna glywais lawer gwaith;
Do, bu pawb yn hoff ohono
Hyd i derfyn eitha'r daith,
Wedi iddo fyned adref
I drigfanau'r nefol wlad,
'Rwyf yn credu clywaf yno
Fod pawb yn hoff o gwmni nhad.

Yr Herald Gymraeg 08/08/1916