RHYBUDD I FFERMWYR.
Yn Ynadlys Pwllheli, dydd Mercher, cyhuddwyd Robert Evans, Methlem, Aberdaron, o dori deddf amddiffyniad y wlad trwy wneyd goleuni oedd yn weledig o'r mor ar Mawrth 29ain.Tystiodd Mr. J. Madden, milwr, ei fod yn gwylio glanau y mor yn Aberdaron pan y gwelodd oleuni mawr ar un o'r bryniau, yr hwn oedd yn weledig o'r mor. Aeth at y diffynydd, a datganodd ei fod yn anhysbys o'r ddeddf, ac mai llosgi grug yr oedd er gwella y borfa fel yr arferai wneyd bob blwyddyn.
Tystiodd yr Heddwas Thomas ei fod wedi gwasgaru yr archeb drwy y dosbarth.
Ymddangosodd Mr. O. Robyns Owen ar ran y diffynydd, a addefai ei euogrwydd, gan ddatgan ei ofid am yr hyn a ddigwyddodd. Nis gwyddai ei fod yn troseddu o gwbl, ond yr oedd yn llosgi y grug er gwella y borfa. Nid oedd gan y diffynydd rith o fwriad i gynorthwyo y gelyn. Yr oedd yn heddwas arbenig ei hun, ac yn gwneyd a allai er cynorthwyo ei wlad yn yr argyfwng presenol.
Dywedodd y Cadeirydd (Mr. J. G. Jones) fod y fainc yn edrych ar y trosedd yn un difrifol iawn ac yn dymuno tynu sylw y wlad at y ffaith nad oes ganddynt hawl i losgi grug, etc. ar adeg o ryfel. Er y gallent ei ddirwyo i 100p yr oeddynt am fodloni ar ddirwy o lp y tro hwn.