NANHORON HUNO.
Wedi misoedd lawer o lesgedd a ddioddefodd yn dawel a siriol hunodd yn yr angeu, ddydd Mawrth diweddaf, yn 32 mlwydd oed, Mrs. Mary E. Roberts, anwyl briod Mr. William Roberts, 'Refail.Er nad oedd ond rhyw bedair blynedd er pan unwyd y ddau mewn glan briodas, dyma angeu i mewn ac yn datod yr undeb trwy gymeryd y chwaer anwyl hon ymaith. Yr oedd yn aelod ffyddlawn a phur, tra y gallodd, o eglwys M.C. y Nant.
Cydymdeimlir yn fawr a'i hanwyl briod a'i bachgen bach yn eu tywydd gerwin.
Cymerodd yr angladd le ddydd Sadwrn (Mawrth 2) ym Mynwent Llanbedrog. Anghyhoedd ydoedd.
Yr Herald Gymraeg 05/03/1918
Y DDIWEDDAR MRS ROBERTS, RHYDGALED.
Dydd Sadwrn hebryngwyd gweddillion y chwaer anwyl, Mrs. Mary E. Rhydgaled, yr hon a ddioddefodd gystudd maith mor ddirwgnach.Ym Mynwent Llanbedrog y bu'r angladd. Anghyhoedd ydoedd ar wahan i swyddogion eglwys ac Ysgol Sabothol y Nant, lle bu'r ymadawedig yn aelod. Gweinyddwyd yn y tŷ ac ar lan y bedd y Parchn. T. J. Jones, B.A., Brynmawr, R. M. Edmunds. Mynytho. a H. J. Manley (Rheithor Llanbedrog). Gofelid am y trefniadau gan Mr. G. Williams, Shop Nant, hen gyfaill y teulu.
Y galarwyr oeddynt: Mr. W. Roberts, Master Tommy Roberts (priod a'i bachgen bach tair oed); Mrs. Jones (mam), a Miss Jones (chwaer). Muriau; Mrs. R. Mason, Dinas Mawddwy; Mr. a Mrs. Williams, Abersoch (chwiorydd); Mr. a Mrs. T. H. Jones (brawd). Anfonwyd blodeu teg gan berthynasau a chyfeillion yn arwyddluniau serch a pharch. Caed arwyddion amlwg ar hyd y ffordd i'r gladdfa fod yr holl ardal a chylch eang yn cydymdeimlo a'r teulu yn eu galar dwys.
Cynrychiolid eglwys M.C. Y Nant gan y Mri. W. Wiilliams (Pandy), D. Thomas, a J. O. Jones, a'r Ysgol Sabbothol gan y Mri. G. Williams, T. Griffiths, a W. Owen, pa rai a wasanaethent fel bearers yn y fynwent.