MARWOLAETH.

Dydd lau, Awst 31, bu farw yr hen gyfaill doniol Mr. Ellis Evans Brynllan, yn 61 mlwydd oed.

Hebryngwyd ei weddillion gan dorf luosog y dydd Mawrth dilynol i fynwent Eglwys Bryncroes. Gwananaethwyd yn y tŷ gan y Parch.—Evans, Hebron, ac yn yr eglwys gan y Parch. Lodwig Davies, Ficer Bodferin.

Gadawodd ar ei ôl briod a pump o feibion, a phedair o ferched, a 16 o wyrion. Teimlir colled ar ei ôl mewn llawer cylch yn yr ardal, gan y byddai bob amser yn gymwynasgar i bawb. Teimlir colled hefyd ar ei ôl yng Nghapel y Bedyddwyr. Un o'r ffyddloniaid oedd bob amser. Byddai aml i bregethwr yn gwerthfawrogi ei ddagreu a'r teimladau drylliedig wrth wrandaw pregethu lesu Grist i'r bobi. Byddai canu yn hyfrydwch beunydd iddo.

Yr oedd y dorf fawr yn dangos yn eglur ddydd yr angladd mai un hoff gan bawb ydoedd.

Heddwch i'w lwch.

Yr Udgorn 13/09/1916