DAMWAIN.

Dydd Mercher diweddaf, pan oedd y wagen sydd yn cario coed o Bodfean i hen orsaf y rheilffordd a thri o geffylau yn ei thynnu, yn myned trwy Heol Fawr daeth i wrthdarawiad รข cherbyd yr hen gariwr adnabyddus, H. Williams, Penrhos, Aberdaron, yr hwn a gafodd ei daflu o'r cerbyd, ond heb dderbyn niwaid ond dychryn ychydig.

Onibai am ddewrder un oedd yn gofalu am y wagen gallasai niweidiau mawr ddigwydd gan ei bod ar ganol y farchnad a'r ceffylau wedi cynhyrfu.

Nid yw heolydd y dref yn llydain ar eu goreu, a phaham y rhaid i'r gwageni hyn gael dyfod trwy heolydd culion y dref a hynny ar ddiwrnod marchnad?

Deallwn fod trefniadau yn cael eu gwneyd i fyned a hwy gydag ochr y porthladd a sicr gennym mai cam yn yr iawn gyfeiriad fyddai hynny.

Yr Herald Gymraeg 27/05/1919