OEDRAN TEG.

Yr wythnos, ddiweddaf bu farw Mrs. E. Griffith, Bugeilys Bach, wedi cyraedd yr oedran teg o 83 mlwydd oed.

Teimlir chwithdod ar ei hol mewn llawer cylch. Claddwyd hi ym mymwent. St. Hywyn, Aberdaron, pryd y daeth torf lluosog ynghyd.

Gedy dwy ferch a mab i alaru ar ei hol. Mae dau o'r meibion yn ddiaconiaid ffyddlon yn eglwys M.C., Rhydlios. Hefyd bu priod Mrs Griffith yn ddiacon am flynyddau lawer.

Yr Herald Gymraeg 12/02/1918


MARW MRS. ELIZABETH GRIFFITH:, BUGEILUS BACH.

Ganol ddydd Mawrth, Ionawr 29, yn 88 oed, bu farw'r wraig dduwiol hon. Un o heddychol blant Seion ydoedd hi yn ddianieu. Yr oedd yn weddw ers Ebrill 16. 1891. Ei phriod oedd Evan Griffith, mab Longerrig, Bryncroes, yr hwn fu farw y dyddiad dywededig yn 70 oed.

O'u plant y mae pedwar yn fyw, dau fab, Robert a John, dwy ferch, Ellen ac Elizabeth.

Anhawdd gennym gredu y daearwyd amgenach Cristion yn Aberdaron na Beti Griffith. Hebryngwyd ei gweddillion i Fynwent Hywyn ddydd Sadwm, Chwefror 2. Daeth torf luosog ynghyd er gwrthwynebiad hin. Gwasanaethwyd yn y tŷ gan Mr. John T. Williaims (" J. T. W."), Bodeilias, Pistyll, yr hwn sydd hen gyfaill anwesol i'r teulu o'i febyd, ac yn yr eglwvs ac wrth y bedd gan y Parch. T. Owen {Rheithor).

Bydd chwithdod yn hir ar ei hol ymhob cylch y'i hadnabyddid. Caed gair o deyrnged i'w choffadwriaeth nos Sul yn Rhydlios gan "J. T. W." yr hwn a bregethai yno, a chan Mr. Griffith Jones, blaenor hynaf y lle.

Heddwch mae'n wir haeddu;
Aden ei "Thad" daeno'i thy.
—Cyfaill.

Yr Herald Gymraeg 12/02/1918