HUNO'N YR ANGAU.

Ddydd Llun diwethaf bu torf fawr yn hebrwng i'r hen gladdfa Aberdaron weddillion marwol Mr Griffith Griffiths, Glanrhyd.

Yr oedd efe yn 73 mlwydd oed, ac ni chafodd ond cystudd byr.

Dyn caredig a chymwynasgar oedd efe ac iddo barch mawr yn yr ardal.
 

Yr Udgorn 09/07/1913