MARWOLAETH.

Blin genym gofnodi am farwolaeth Mr Richard Jones, Ardd Las, wedi dioddef blin gystudd ond byr. Gadawodd y fuchedd hon ar y 7fed o Ionawr a hebryngwvd ei weddillion y dydd Iau dilynon i hen Fynwent Sant Hywyn. Aberdaron, gan lu mawr o gyfeillion a pherthynasau.

Yr oedd y blodeudyrch yn dangos parch mawr iddo. Dyma'r rhai a'u hanfonasant : Ellen Jones, Ty'n Pwll, Rhoshirwaen; Jane Jones. Bryn Goleu, Rhoshirwaen; Sarah Roberts, Post, Rhoshirwaen; Mrs Hughes, Fron Oleu, Rhoshirwaen.

Heddwch i'w lwch.

Yr Herald Gymraeg 30/01/1917