MARW GWR ENWOG.

Ymddangosai yn y newyddiaduron ddiwedd yr wythnos hanes marw y gŵr enwog Mr George David, Derbynydd Swyddogol, Caerdydd.

Yr oedd Mr David yn un o ddinaswyr mwyaf poblogaidd Caerdydd, ac yn uchel ei barch yno.

Ganwyd ef yn Mhwllheli 57ain neu 58ain mlynedd yn ôl.

A all rhywun o'n darllenwyr ein cynysgaeddu a'r wybodaeth briodol pwy ydoedd, ac hefyd a oes rhai o'i berthynasau yn byw yn y dref yn awr ?

Yr Udgorn 21/11/1917