MARWOLAETH HENAFGWR.

Dydd Sadwrn diweddaf bu farw Mr Robert Japheth, Wern Sais, yn ei 93 mlwydd oed.

Yr oedd yn ŵr cymeradwy a chymydogol iawn, ac wedi gweithio hyd yn ddiweddar iawn ar Ystad Broom Hall.

Bu hefyd yn ddiacon ffyddlawn am flynyddau lawer gyda'r Annibynwyr, a bydd colled fawr ar ei ôl. Gedy weddw a phlant i alaru ar ei ôl.

Cymer yr angladd le yn mynwent Abererch dydd lau nesaf, am 1-30 o'r gloch (angladd cyhoeddus)

Yr Udgorn 17/02/1915