ALLEGED BREACH OF CONTRACT.

Hugh Elias, Rhedynog, Abererch, summoned Hugh Jones, farm servant, Llannor, at the Police Court, on Wednesday, for alleged breach of contract.

Mr E. R. Davies was for the plaintiff, and Mr Wm. George for the defendant. Mr Elias said he engaged the defendant for six months, but he left after being on the farm for only a few days without giving any notice. As there were 22 cows, two horses, and other animals to be attended to, the conduct of the defendant had caused him very great inconvenience, and some loss, for which he claimed £2 damages.

The defence was that the sleeping and other accommodation was defective.

Judgment was given for the plaintiff.

North Wales Chronicle 31/12/1915


YNADLYS PWLLHELI.

Cynhaliwyd dydd Mercher, gerbron Mri J. G. Jones (cadeirydd). Dr. S. W. Griffiths, Dr. Gwenogfryn Evans, G. Hughes Roberts, Maurice Jones, Wiliiam Thomas, J. Hughes Parry, G. Cornelius Roberts.

MEISTR A GWAS.

Erlynai Mr Hugh Elias, Rhedynog Abererch, Hugh Jones (gwas fferm), o Mela Llannor, am dori cytundeb cyflogiad, a gofynodd am 2p o iawn.

Ymddangosai Mr Evan R. Davies ar ran yr erlynydd. a Mr. William George ar ran y diffynydd.

Tystiodd yr hawlydd ei fod wedi cyflogi y diffynydd am haner blwyddyn, a bu i'r diffynydd adael yn mhen dan ddiwrnod heb roddi yr un rheswm na rhybudd o gwbl o'i fwriad i ymadael. Gan ei fod yn porthi 22 o waetheg, dau geffyl, ac yn arodig achosodd anhwylusdod mawr iddo ef.

Yn ateb i Mr William George, dywedodd nad oedd y bachgen wedi cwyno o gwbl oherwydd cyflwr y llofft stabl. Nid oedd wedi dweyd fod y lle yn afiach i gysgu ynddo. Ystyriai ef fod y lle yn gymwys i'r gweision ac yn hollol iach i gvsgu ynddo. Tystiai y diffynydd ei fod wedi gwasanaethu dau ddiwrnod yn Rhedynog, ac am fod y llofft ystabl yn lle afiach i gysgu ynddo aeth ef adref. Yr oedd y lle yn llaith ac oer. Yn fuan aeth yn wael iawn.

Mewn atebiad i Mr E. R. Davies, dywedodd ei fod wedi mynd adref ar ddydd, Sul a'i fod wedi cyflogi y dydd Llun dilynol i fyned i Mela, Addefai fod Mela yn agosach i'w gartref a'i fod yn cael 13p o gyflog am hanner blwyddyn. Aeth ef yn wael dydd Iau ar ol gwasanaethu dau ddiwrnod yn Mela.

Mewn atebiad i Mr George dywedodd ei fod yn cwyno pan vr aeth i Mela. Cafodd le cynnes i gysgu yno. Tystiodd Mrs Jones, mam y diffynydd, nad oedd y bachgen yn 18 mlwydd oed. Cyflogodd i fyned i Rhedynog heb ganiatad ei dad na hithau. Aeth i'w le dydd Gwener a daeth yn ol ddydd Sul yn wael. Aeth hithau yno i ymofyn ei ddillad dydd Llun. Bu yn gweld y llofft ystabl, ac yn ol ei barn hi nid oedd yn addas i neb gvsgu ynddi.

Cyflogodd y bachgen i fyned i Mela dydd Llun, a daeth adref yn wael yn mhen dau ddiwrnod. Yr oedd yn sicr ei fod yn cwyno cyn myned yno.

Mewn atebiad i Mr E. R. Davies. dywedodd nad oedd y bachgen wedi cwyno oherwydd y llofft ystabl wrth ei feistr. Yr oedd y bachgen o dan oed. Mr Davies. Nid oedd yn rhy ieuanc i gwyno wrthych chwi a'i oedd? (chwerthin).

Bu i'r fainc ddyfarnu 2p o iawn i'r hawlydd.

Yr Herald Gymraeg 04/01/1916


Llys Ynadol Pwllheli.

Ddydd Mercher. Rhagfyr 29ain. Gerbron J. G. Jones (yn y gadair), Dr. S, W. Griffith, Dr. J. Gwenogfryn Evans, Henaduriaid Maurice Jones a G. Hughes Roberts, William Thomas, Ysw., J. Hughes-Parry, Ysw., a G. Cornelius Roberts, Ysw.

Meistr a Gwas.

Gwysiwyd Hugh Jones, Mela, Llannor, gan Hugh Elias, Rhedynog, Abererch, am 2p. o iawn am dori rhwymedigaeth o wasanaeth.

Ymddangosai Mr. Evan R. Davies dros yr hawlydd, yr hwn ddywedodd iddo logi y diffynydd am chwe mis, ond gadawodd y lle yn mhen deuddydd heb roddi rhybudd na rheswm dros ei ymadawiad.

Yr oedd gan yr hawlydd ddwy ar hugain o wartheg a dau geffyl, a bu ymadawiad y gwas yn golled ac anhwylusdod mawr iddo.

Dywedodd Mr. William George, ar ran y diffynydd, mai ei gwyn ydoedd nad oedd llofft yr ystabal y gofynwyd iddo gysgu ynddi yn gymwys fel ystafell wely, am ei bod yn afiach, yn oer, ac yn damp.

Dyfarnodd y fainc yn ffafr yr hawlydd am 2p.

Yr Udgorn 05/01/1916