MARW'N GYNAR.

Bore Gwener diweddaf, Hydref 23ain, wedi cystudd byr oddeutu naw diwrnod, bu farw un o gymeriadau harddaf ardal Abererch, sef Miss Mary Jones, Caeau Pella, yn 27 mlwydd oed.

Geneth ieuanc dyner, garedig, a hoffus gan bawb ydoedd, a thystiwyd hyny gan y nifer luosog ddaeth ynghyd i'w hangladd yn mynwent Abererch, ddydd Llun.

Mae cydymdeimlad dwfn รข'r teulu yn eu galar a'u colled annisgwyliadwy.

Yr Udgorn 28/10/1914