YMADAEL.

Ein cymydog, y Parch. D. J. Jones, B.A., Llwynhudol, sydd wedi ei benodi gan awdurdodau Coleg yr Iesu, Rhydychain, i Ficeriaeth Llanwnda, ger Caernarfon.

Yn y Coleg enwog hwnw y bu Mr. Jones yn derbyn ei addysg, a bu ei gwrs yno yn un llwyddianus a disglaer iawn. Daeth allan fwy nag unwaith gydag anrhydedd.

Bu yn gwasanaethu am gyfnod fel Curad yn Mhwllheli, yna apwyntiwyd ef yn arholydd mewn gwybodaeth Ysgrythyrol ysgolion Eg lwysig Esgobaeth Bangor.

Boneddwr diabsen a charedig yw Mr. Jones, a sicr yw genym y bydd iddo allu cyd-fyw yn heddychol รข phob plaid ac enwad yn Llanwnda.

Y Genedl Gymreig 02/06/1914