MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH MRS. HUGH WILLIAMS, DERLWYN.

Prudd yw cofnodi marwolaeth Mrs. Williams, Derlwyn (gweddw y diweddar Mr. Hugh Williams, Shop Goch, gynt) yr hyn a gymerodd le ddydd Mawrth, ar ôl cystudd caled o ddau fis.

Bu yn aelod ffyddlawn yn Eglwys Penmount am flynyddau lawer ac yr oedd yr eglwys a llwyddiant achos Crist ynddi yn cael lle mawr yn ei chalon. Dangosodd sel mawr tuag at y genhadaeth, a chyfranodd bob amser yn deilwng tuag at yr achos.

Claddwyd ei gweddillion marwol ddydd Gwener yn mynwent Penrhos. Gwasanaethwyd yn y tŷ gan y Parch. J. Puleston Jones ac ar lan y bedd gan y Parch. D. Roberts, Abererch, a'r Parch. J. Henry Williams, Porthmadog.

Y prif alarwyr oeddynt :- Cerbyd cyntaf: Parch. Edward Williams, B A., B.D., a Mrs. Williams, Clawdd Newydd, (mab a merch-yn-nghyfraith); Miss Jennie Williams, Derlwyn; Miss Laura Williams, Mrs D. Morris Jones, eto (merched), nurse.

Ail gerbyd: Miss Jones, Ty Mawr, Llanwnda (chwaer); Mri William Jones, Derlwyn; Robert Jones, Ty Mawr, Llanfair; a Griffith Jones, Caernarfon (brodyr); Mr. W. Jones Williams, Caernarfon; Parch John Jones, Pencaerau.

Trydydd cerbvd : Mrs. Jones, Ty Mawr, Llanfair; Mr. Willie Jones, eto; Parch. D. Morris Jones, B.A., B.D., (caplan gyda'r fyddin); Mr. Henry Williams, Porthaethwy.

Pedwerydd cerbyd: Mr. Jones Conwy; Mri Jones, Lerpwl; Edward Williams, Glasfryn; Thomas Williams, Gwalchmai; Henry Williams, Clwtybont; David Williams, Dinorwig.

Yn y cerbyd o flaen yr elorgerbyd yr oedd y Parchn J. Puleston Jones, M.A., Penmount; D. Roberts, Abererch; J. H. Williams, Porthmadog, Mr Evan Parry, Ysgubor Wen, Pwllheli (yn cynrychioli Eglwys Penmount), a Dr. Wynne Griffith mewn modur.

Yr oedd trefniadiau yr angladd yn ngofal Mr. H. Williams, Shop Goch.

Cydymdeimlir yn ddwfn a'r plant, sef Misses Jennie a Laura Williams, Mrs. D M. Jones, a'r Parch Edward Wiliams, B.A., B.D., Clawdd Newydd, ar ôl mam annwyl a thyner iawn. Nawdd y nef fo drostynt yn eu hawr gyfyng.

Yr Herald Gymraeg 02/01/1917


MARW GWRAIG ADNABYDDUS.

Prudd genym gofnodi marwolaeth a chladdedigaeth Mrs Williams, Derlwyn (gweddw y diweddar Mr Hugh Williams, Shop Goch, gynt), yr hyn a gymerodd le ddydd Mawrth, Rhagfyr 26ain, 1916, a hi yn 66 mlwydd oed. Cafodd gystudd caled a phoenus, ond dioddefodd y cwbl yn dawel ac amyneddgar.

Bu yn aelod ffyddlawn a gweithgar yn eglwys Penmount, ac yr oedd y genhadaeth Dramor a Chartretol y Methodistiaid Calfinaidd yn agos iawn at ei chalon, a chyfranodd yn hael tuag atynt. Magodd dyaid o blant yn ofalus, a gwelodd o'i phlant yn dyfod i sylw a defnyddioldeb mewn byd ac eglwys - y mab yn weinidog yn Clawddnewydd, a'r ferch yn Genhades gyda'r Symudiad Ymosodol.

Cymerodd y gladdedigaeth le, yr hon oedd anghyhoedd, yn mynwent Penrhos ddydd Gwener diweddaf. Gwasanaethwyd yn y tŷ gan y Parch. J Puleston Jones, M.A., ac yn y fynwent gan y Parch. D. Roberts, Abererch, a John Henry Williems, Porthmadog.

Cydymdeimlir â'r plant yn eu halaeth a'u gofid ar ôl mam mor dyner a llafurus, ac a'r perthynasau lluosog yn eu galar a'u hiraeth am un mor anwyl.

Yr Udgorn 03/01/1917