MARW.
Dydd Llun. bu farw Mr Evan Thomas, Bryntirion, Yokehouse (Pantglas gynt), yn 78 mlwydd oed.Bu ar un adeg yn masnachu llawer mewn anifeiliaid, ac yr oedd yn adnabyddus iawn trwy'r wlad.
Bu farw yn dra sydyn, a chladdwyd ef ym mynwent Llanor, y Parchn. Thomas Williams a Mr Jones, rheithor, yn gwasanaethu.