CYDNABOD CYDYMDEIMLAD.

Dymuna Mr a Mrs Richard Pierce, Tanrallt, gydnabod y llu llythyrau a dderbyniasant yn cydymdeimlo a hwy yn eu profodigaeth o golli eu hanwyl fab, Lance-Corporal Dick Pierce.

Derbyniasant lythyr oddiwrth Sergt. R. Lloyd, Mitre Square, Pwllbeli, yn dweyd i'w mab gael ei ladd ychydig wedi pedwar o'r gloch, Rhagfyr 28ain.

Claddwyd ef mewn mynwent filwrol wrth droed Mynydd yr Olewydd. Gosodwyd croes i nodi man ei fedd. Yr oedd yn filwr dewr ac yn gyfaill caredig, a gofidiai ei holl gyd-filwyr oherwydd ei golli.

Yr Herald Gymraeg 19/02/1918