MARW YN Y CAPEL.
Crewyd cyffro anghyffredin yn Nghapel yr Annibynwyr Abererch, nos Sul diweddaf, trwy i Mr Thomas Jones, Bryn Ynys, un o'r diaconiaid hynaf, ac un o ffermwyr parchusaf y fro, syrthio yn farw yn y set fawr pan ar derfyn y gwasanaeth.Yr oedd yr ymadawedig yn 71 ain mlwydd oed a bu yn ddiacon yn y capel am 25ain mlynedd. Yr oedd yn dioddef ers amser gan afiechyd y galon.
Gedy weddw a phedwar o blant ar ei ôl, un ohonynt yw Mr M. G. Jones, Artro, Pwllheli. Cymerir yr angladd le ddydd Iau nesaf am 1-30 o'r gloch - angladd cyhoeddus.
Yr Udgorn 18/06/1913
MARW YN Y CAPEL.
Yr wythnos ddiweddaf crybwyllasom am farwolaeth sydyn Mr. Thomas Jones, Bryn Ynys, yn y Gyfeillach yn y Capel Ucha (A.) nos Sul, y 15fed cyfisol. Yr oedd yn cwyno ers misoedd, ond gallodd ddod i'r moddion y Sul a nodwyd am 2 a 6. Cafwyd gair o'i brofiad yn y gyfeillach, pryd y dywedai mai diolchgar ydoedd am gael dod unwaith eto i Dy yr Arglwydd, ac yn mhen ychydig iawn o fynydau ehedodd ei ysbryd, ar ddiwedd y Sul yma, i'r wlad lle nad oes diwedd i'r Sabboth yn bod.Yr oedd yn swyddog ffyddlon yn eglwys Ebenezer ers chwarter canrif, ac mewn cysylltiad a'r achos er mwy na deugain mlynedd. Yn ei farwolaeth fe deimlir fod bwlch mawr wedi ei wneyd i'r achos yn y Capel Ucha. Er teimlo yn ddwfn y golled a gafwyd trwy ei ymadawiad sydyn, yr ydym o dan rwymau i ogoneddu Duw ynddo ef. Prydnawn ddydd lau, y 19eg cyfisol, cymerodd ei gladdedigaeth le.
Rhoddwyd ei weddillion i orphwys yn mynwent plwyf Abererch. Cyn cychwyn oddiwrth y tŷ, darllenwyd rhan o'r Ysgrythyrau gan y Parch Thomas Williams, Capel Helyg, a gweddiwyd gan y Parch J. Puleston Jones, M.A. Yn y fynwent fe gariwyd y gwasanaeth yn mlaen o dan y drefn newydd. Siaradwyd gan y Parchn. Morgan Price, y Gweinidog, Hugh Davies, a David Roberts, a gweddiodd y Parch J. Rhydderch. Dygai yr holl siaradwyr dystiolaeth uchel i gymeriad y brawd ymadawedig, a helaethrwydd ei lafur yn mhlaid pob da, a thystiolaeth unol y rhai oewld yn gwraudo ydoedd, na fynegwyd gormod amdano.
Yr oedd y gwasanaeth claddu nid yn unig yn cael ei nodweddu gan lawer o weddusder ac urddas, ond teimlid ei fod yn foddion gras yn ngwir ystyr y gair.
Cydymdeimlir a'r weddw a'r plant - y meibion a'r unig terch sydd yn fyw, sef Mrs John Owen, yr hon sydd gartref. Un o'r meibion ydyw Mr John Jones, Manchester, yr hwn sydd wedi cyrhaedd safle uchel heblaw ei fod yn ddiacon ac ysgrifenydd eglwys Booth Street, un arall o honynt ydyw y masnachwr llwyddianus. Mr M. Griffiths Jones, Artro, Pwllheli.