LLEFRITH AMHUR.

Cyhuddid Ellis Jones, Prior, Abererch, gan Charles Ll. Roberts, arolygydd y fwrdeisdref, o fod wedi gwerthu llefrith ar ôl tynu hufen ohono.

Ymneillduodd Cyrnol Evans oddiar y Fainc, gan fod y diffynydd yn denant iddo, a chan mai Cyngor Trefol Pwllheli oedd yn erlyn ymneillduodd yr Henaduriaid W. Anthony ac O. Wynne Griffith drachefn.

Ar ran y diffynydd dywedodd Mr. Wm. George fod y llefrith wedi ei werthu yn hollol fel y ceid ef oddiwrth y fuwch. Prynwyd y sampl pan oedd y llefrith wedi mynd yn isel yn y llestr.

Dywedodd y cyhuddedig hyny wrth Mr. Roberts ar y pryd, ac nad oedd yn deg cymeryd sampl o'r llefrith felly. Taflwyd yr achos allan.

  

Yr Udgorn 26/03/1913