ABERERCH WEDI DENG WYTHNOS.
Mae Mr. a Mrs. Griffith Jones, Tynyfynwent, Abererch, wedi derbyn gair oddiwrth eu mab (Private William Jones) yn dweyd ei fod yn garcharor yn yr Almaen.Cyhoeddwyd ei fod ar goll ddeng wythnos yn ôl ac ni chlywyd gair yn ei gylch hyd yn awr.