ABERERCH - MARW'N IEUANC.

Dydd Sadwrn bu farw Mr Alfred Chamberlain. School Terrace. Abererch. ar ôl rhai misoedd o nychdod, yn yr oedran cynar o 17 mlwydd oed.

Yr oedd yn gwasanaethu gyda Mr R. T. Williams, Dilledydd, Bon Marche, cyn myned yn wael ac yn fawr ei barch gan ei gyd-ieuenctyd.

Yr Herald Gymraeg 09/05/1916