Marw Sydyn Gwraig o Abererch.

Dydd Mawrth yr oedd Mrs. Gaynor Evans, Post Office Terrace, Abererch, wedi myned ar ymweliad â pherthynasau yn Rhiw Senedd, Llanbedrog. Yr oedd mewn hwyl dda pan yn ymadael a'i pherthynasau am y tren chwech o Llanbedrog a phan wedi gadael y tŷ rhyw ugain llath cwynai wrth ei phriod fod rhyw boen yn ei chefn a syrthiodd i lawr mewn llewyg. Cludwyd hi yn ol i'r tŷ, ond yr oedd wedi marw.

Yr ydoedd yn 69 mlwydd oed, ac yn cwyno gan ddiffyg y galon ers blynyddau.
 

Herald Gymraeg 13/01/1914