MARWOLAETH.
Dydd Sul, Mai 5ed, bu farw Mrs. Jane Roberts, anwyl briod Mr. Griffith Roberts, Post Office Terrace, yn 73 mlwydd oed.Dydd Iau claddwyd ei gweddillion yn mynwent y plwyf. Gwasanaethwyd gan y Parchn. Hugh Davies a D Jones, B.A., y Ficer.
Cafodd gystudd maith, ond daliodd y cyfan yn dawel a dirwgnach. Yn ei marwolaeth collodd y pentref un o'r gwragedd mwyaf parchus. Cydymdeimlwn a'r teulu oll yn eu galar.