ER COF.

Gofid genyf oedd deall am farw'r chwaer Miss Catherine Hughes, Tygwyn, Abererch gynt yr hyn a gymerodd le gyda'i pherthynasau yn ardal Nazareth.

Claddwyd hi yn Llanllyfni.

Bydd gair o goffad yn ddiau yn gymerdawy gan lawer. Bu'n trigo yn Abererch am flynyddau lawer. Bu'n aelod ffyddlon o Eglwys Ebenezer (A) a chyda hi yr oedd y pregethwyr yn lletya. Nid oedd neb siriolach a charedicach yn ei thy ei hun, na neb a allai werthfawrogi cyfeillgarwch yn well. Yr oedd yn ei hvmddiddanion gyffyrddiadau tyner a naturiol. meddylgar a dwys. Yr oedd yn hynod ddidwyll, ac ni chlywid hi byth yn dweyd gair angharedig am neb. Yr oedd o dymer serchog ag addfwyn. a phob amser yn llon a chwareus, fel yr oedd pawb yn hoff o honi.

Erbyn hyn mae'r llais wedi tewi, ond y dylanwad yn aros. Bellach, "Huned mewn hedd."

Yr Herald Gymraeg 15/07/1919