YMWELIAD TEULU O WLAD BELL.

Y dydd o'r blaen, cyrnaeddodd Mr Henry Jones a'i deulu yma o Awstralia.

Aeth Mr Jones oddiyma ei hunan yn ddyn ieuanc er ys rhagor i 30 mlynedd yn ôl, ond wele ef yn dychwelyd gyda phriod a phump o blant.

Ni raid dyweyd ei fod wedi son llawer am yr Hen Wlad wrth ei deulu, ac y maent hwythau eisoes wedi eu llwyr swyno gan brydferthwch y golygfeydd.

Yn mhen misoedd rai y bwriadent ddychwelyd i'r wlad y daethant allan ohoni. Yn Nhanyfynwent Terrace, gyda brawd a chwaer Mr Jones, sef Mr Richard a Miss Jones, y gwnant eu cartref yn ystod eu trigias yn y wlad hon.

Y Genedl Gymreig 02/06/1914