DAMWAIN FLIN.
Fel yr oedd Robert Owen, bachgen Mr. a Mrs. Robert Ellis, Tyddyn Cribau, yn chwareu y dydd o'r blaen fe ffrwydrodd potel yn yr hon yr oedd wedi rhoddi dwfr a chalch, i'w wyneb, fel y buwyd yn ofni ei fod wedi amharu ei olwg yn fawr. Aed ag ef i Lerpwl i'r ysbyty.Da yw deall na fu canlyniad y ddamwain ddim cymaint ag yr ofnid ar y dechreu.
Y Genedl Gymreig 02/06/1914
GWEITHRED BRYDFERTH.
Cyfeiriwyd yr wythnos o'r blaen at y ddamwain a gyfarfyddodd Robert O. Ellis. Yn yr ysbytty yn Lerpwl yr oedd ein cyfaill ienanc, yn caei ei ben blwydd, ddydd Gwener diweddaf, yn 12 mlwydd oed.Ar awgrymiad Miss Roberts, yr ysgol-feistres, darfu i'r plant yn llawen gyfranu eu ceiniogau er mwyn danfon anrheg pen blwydd i Robert Owen i'r Ysbytty i sirioli ei feddwl.
Gwaith da ydyw dysgu y plant yn foreu ar eu gyrfa i ddangos cydymdeimlad a'u gilydd mewn anffodion a gwaeledd.