DAMWAIN ERCHYLL I ÔF O ABERERCH.

Dydd Marcher bu i Mr. Isaac Jones, gôf, yr Efail, Abererch, gyfarfod a damwain angeuol. Yr oedd yn rhoddi olew i'r peiriant llifio yn Broom Hall, ac wedi cymeryd ystol i fyned i fyny at yr olwyn uchaf.

Rhywfodd neu gilydd aeth ei ddillad i mewn. i'r echel ar y top, a thynwyd ei ddillad oddam dano ag eithrio ei esgudiau, a chafwyd ef yn noeth, ac yn anymwybodol ar y llawr. Nid oes fawr o oleuni pa fodd y cymerodd y ddamwain le, gan iddi gymeryd lle mor sydyn fel na welwyd mohono gan weithwyr oedd tuag wyth llath oddiwrtho yn gweithio, yn yr adeilad.

Yr oedd Mr. Jones tua 56 mlwydd oed, ac yn weithiwr selog a phybyr gyda phob achos da. Yr oedd hefyd yn gwasanaetlhu fel heddwas arbenig, ac efe drefnodd y trengholiad diweddaf yn yr ardal. Cymerodd y trengholiad le nawn Sadwrn.

Cydymdeimlir a'i weddw a'r teulu oll yn eu galar.

Yr Herald Gymraeg 05/03/1918


Y DIWEDDAR MR. ISAAC JONES.

Dydd Sadwrn, cynhaliwyd trengholiad yn festri'r Methodistiaid i achos marwolaeth Mr Isaac Jones, yr Efail. Cynhelid y trengholiad gan Mr. O. Robyns Owen, Crwner, a Mr John Roberts yn flaenor y rheithwyr.

Tystiodd Mr Edward Jones ei fod ef a Mr. John Adams, yn gweithio yn yr un adeilad a'r trancedig y dydd y cymerodd y ddamwain le. Clywodd ef yr ystol yn disgyn, ac aeth i'r lle. Gwelodd ddillad y trancedig wedi lapio am yr echel ryw wyth troedfedd o'r llawr, a gwelodd y trancedig yn gorwedd yn noeth ar y llawr. Galwodd ar ei gydweithwyr i'r lle, ac aeth yntau i geisio'r meddyg a phlancedi i roddi ar y trancedig. Bu fyw hyd tua naw o'r gloch nos dranoeth. Dywedodd y trancedig wrtho ef mai wedi myned i roddi oil i'r pwli yr oedd, ond nis gwyddai sut y cymerodd ei ddillad afael yn yr echel. Yr oedd yr echel yn llyfn a chrwn. Yr oedd y peiriant olew yn myned ar y pryd, a Mr. Isaac Jones oedd yn gyru'r peiriant. Yr oedd yn gynefin a'r gwaith, ac yn cael ei ystyried yn weithiwr medrus a gofalus.

Rhoed tystiolaeth gan Dr. R. Jones Evans fu'n gweini arno, a dychwelwyd rheithfarn o "Farwolaeth ddamweiniol."

Sylwodd y Trengholydd fod yn amlwg nad oedd y cyflogwr na'r trancedig wedi dangos unrhyw fath o esgeulusdra.

Cynrychiolid Cyrnol Lloyd Evans a Mrs. Evans gan Mr. Arthen O. Owen, yr hwn a ddywedodd fod Cyrnol a Mrs. Evans yn dymuno datgan eu cydymdeimlad cynhesaf a'r weddw yn eu galar. Ymunodd y Crwner a'r rheithwyr yn y datganiad.

Cymerodd yr angladd le yn Abererch, ddydd Llun. Gwasanaethid gan Parchn David Roberts, Hugh Davies a David Jones,(ficer). Hebryngwyd yr arch gan wirfoddolwyr Pwllheli dan arweiniad Lieut. R. H. Wiilliams, M.A., a gweithwyr Broom Hall.

Yr Herald Gymraeg 12/03/1918