MARW'N HEN.

Foreu Mawrth diweddaf, wedi misoedd o gystudd, bu farw Mr Rolant Jones, Post Office, ac efe yn 90 mlwydd oed.

Bu yn aelod ffyddlawn yn eglwys Ebenezer (M.C.), ac hefyd bu am flynyddoedd meithion yn athraw yn yr Ysgol SuI, a dilynodd hi yn ddigoll.

Cymerodd y gladdediaeth gyhoeddus le ddydd Sadwrn diweddaf yn mynwent Ahererch, pryd y daeth torf luosog i hebrwng yr henafgŵr parchus i dŷ ei hir gartref.

Mab iddo ef yw'r Parch. R R. Jones, Ysbytty. Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu a'r perthynasau oll yn eu profedigaeth chwerw.

Yr Udgorn 10/03/1915