LLYS YNADOL PWLLHELI.
Trwyddedol.
Ar apeliad Mr. J. R. Anthony caniatawyd trosglwyddo trwydded yr Inn, Fourcrosses, oddiar Miss Hughes i Mr. E. A. Williams, Manod Hotel, Blaenau Ffestiniog.Yr Udgorn 01/10/1913
Fourcrosses Heb Dafarn.
Cynhaliwyd y ffair arferol ddoe (ddydd I Llun), ond yr hyn oedd yn chwith i ddyn wedi arfer mynychu y ffeiriau oedd gweled y ffair heb dafarn.Yn sicr dylai dirwestwyr fod yn ddiolchgar i'r boneddwr D. R Daniel, Ysw., am ei waith dros ddirwest. Y mae wedi gwneud mwy mewn un diwrnod nag y mae dirwestwyr yr ardal wedi allu ei wneud ar hyd eu hoes, sef talu rhent y dafarn er mwyn ei chau, a diameu genyf na welir tafarn yn Fourcrosses mwy. Eto y mae yn ddyledswydd ar drigolion y lle, os am i'r ffeiriau barhau, ddarparu lle fel y gall y prynwyr a'r gwerthwyr wneud eu busnes a thalu i'w gilydd, yn enwedig ar ddiwrnod ystormus fel y bydd yn aml.
Beth pe bai chwiorydd gweithgar yr ardal yn cymeryd y peth i fyny fel ar ddiwrnod y Show, a chael y Festri i gael cwpanaid o de a choffi wrth dalu am yr anifeiliaid, fel y rhaid gwneud yn awr ac arian papur.
Gobeithiaf y bydd rhyw symudiad wedi ei wneud erbyn y ffair nesaf, neu bydd ffair Fourcrosses yn cael cam oddiar law dirwestwyr a chrefyddwyr y ddwy eglwys yn y pentref.
PORTHMON.